Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y_Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
17 Mehefin 2020
Amser y
cyfarfod: 12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6373
------
Dechreuodd yr eitem am 12.30
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn
rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy
gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn
gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth
Cymru 2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Teyrngedau i Mohammad Asghar AS
Dechreuodd yr eitem am 12.31
1 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 13.45
2 Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)
Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)
Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig
5 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - COVID-19: Adferiad
Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
6 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 13.47
NDM7332 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
5 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Dechreuodd yr eitem am 13.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7333 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
10 |
5 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl Plaid Brexit - Codi'r Cyfyngiadau Symud
Mae’r eitem wedi'i gohirio tan 24 Mehefin
9 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 13.52
Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau
heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Daeth y cyfarfod i ben am 13.54
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 24 Mehefin 2020